Cabinet yr Unol Daleithiau

Mae Cabinet yr Unol Daleithiau (Saesneg: Cabinet of the United States) yn rhan weithredol o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau sydd fel arfer yn ymddwyn fel corff cynghori i Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Yn rhan o'r Cabinet, y mae swyddogion a benodir uchaf o gangen weithredol y llywodraeth, ac y maent yn gwasanaethu o dan yr Arlywydd. Cynhhwysa'r rhain yr Is-Arlywydd a phenaethiaid yr adrannau gweithredol ffederal. Gwasanaetha aelodau'r Cabinet (ac eithrio'r Is-Arlywydd) er pleser yr Arlywydd.

Gall holl swyddogion cyhoeddus ffederal, gan gynnwys aelodau'r Cabinet, eu huchelgyhuddo gan Dŷ'r Cynrychiolwyr. Yn ogystal, mae'n bosibl iddynt gael eu rhoi ar dreial yn y Senedd ar gyfer "brad, llwgrwobrwyo, ac uchel droseddau a chamymddygiadau".


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search